Datganiad Cyhoeddus FTWW ar y Cynigion i Ddiwygio Lles, Mawrth 2025
Fel sefydliad pobl anabl, mae Triniaeth Deg i Ferched Cymru (FTWW) yn deall ac yn rhannu’r pryderon y mae llawer o bobl anabl a’n cymuned yn eu mynegi am y cynigion diweddar ar gyfer diwygio lles yn y Deyrnas Unedig. Sefydlwyd FTWW yn 2014 oherwydd y rhwystrau ychwanegol y mae menywod a phobl a bennwyd yn fenywod adeg eu geni (AFAB) sy’n anabl neu sydd â salwch cronig yn gallu eu hwynebu wrth geisio cael gafael ar ofal iechyd a chymorth yng Nghymru. Mae themâu cyffredin – fel diffyg gofal arbenigol, oedi hir cyn cael diagnosis, a diffyg data ymchwil…


English


















